Yn ystod yr wythnosau yn arwain at y digwyddiad cewch glywed dechrau stori Alwen a’r Fantell Aur yma.
Cyflwynir y stori mewn pedair pennod fer gan Michael Harvey, enillydd gwobr Cymru Creadigol. Bydd pennod newydd i’w chlywed bob wythnos. Dewch yma i wrando a chamu i mewn i fyd ein stori ni.
Neilltuwch amser ar gyfer hyn os gwelwch yn dda - bydd hynny’n dangos nad yw adrodd straeon yn grefft sydd ar fin marw!
Gwrandewch yn yr ysgol, gwrandewch gyda’ch plant, gwrandewch gyda’ch rhieni, gyda’ch wyrion, gyda’ch nain a’ch taid, gwrandewch gyda’ch anifeiliaid anwes – gwrandewch ar ein stori ni, eich stori chi…
"Mae merch ifanc o gymuned ffermio ar yr ucheldir, a elwir y Brenig erbyn hyn, yn sylweddoli fod ganddi ddawn unigryw a allai newid y byd…"
Bydd bydoedd adrodd storïau, pypedwaith, animeiddio, dawns, cerflunio, tân a sain yn cyfuno i greu profiad unigryw a grymus y tu mewn i waliau Castell Dinbych – sy’n edrych allan at Fryniau Clwyd, sy’n Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol.
Mae Mantell yn ymwneud â chwilio am aur. Nid aur yn yr ystyr oer, caled, materol; yn hytrach y naws yn y tirlun – neu’r ymdeimlad sy’n dod o fod yn rhan o grŵp neu gymuned, mynd y tu hwnt i ffiniau blaenorol gyda’ch gilydd i gyflawni’r amhosib.
Fe’i ysbrydolwyd gan Fantell Aur wych yr Wyddgrug, y gwrthrych aur cynhanesyddol mwyaf i’w ddarganfod yn yr ynysoedd hyn. Mae i’w gweld yn yr Amgueddfa Brydeinig ar hyn o bryd a soniwyd amdani yn rhaglen ddiweddar Radio 4, History of the World in 100 Objects. A ydyn ni’n rhy barod i roi ystyr unfed ganrif ar hugain wedi’i seilio ar gyfoeth materol a grym i wrthrych a allai fod yn fwy o symbol o amddiffyn, cynhesrwydd a diwylliant?
Mae Mantell yn adrodd stori arwrol, tebyg i Odyseia Homer – neu Jason a’r Cnu Aur efallai – wedi’i ysbrydoli gan gyfoeth cynhanes gogledd ddwyrain Cymru ac Ynysoedd Prydain yn ehangach, sy’n amlygu ei hun mewn gwrthrychau a thirlun ac sy’n llawn cyseiniau i ni heddiw.
YN OLY Digwyddiad
Perfformir Mantell yng Nghastell Dinbych nos Sul, 8 Gorffennaf 2012.
Tocynnau ar gael yn Llyfrgell Dinbych (Ffon: 01745 816313) neu drwy eich ysgol.
Nodir eich amser mynediad (rhwng 6.30pm a 7.30pm) ar eich tocyn. Trefnwyd mynediad graddol i’r digwyddiad. Cyrhaeddwch yn brydlon ar yr amser a nodir eich tocyn, os gwelwch yn dda, er mwyn osgoi ciwiau. Bydd y digwyddiad yn gorffen am 10pm.
Paratowch ar gyfer y digwyddiad fel petaech chi’n mynd ar daith antur! Saif Castell Dinbych ar ben bryn gwyntog heb fawr ddim cysgod – gwisgwch ddillad addas os gwelwch yn dda! Mae croeso i chi ddod â lluniaeth ysgafn/picnic gyda chi i’r digwyddiad, a cewch ddod â blancedi picnic neu haenau plastig bychan i eistedd arnynt, os dymunwch.
Peidiwch â defnyddio maes parcio’r Castell, os gwelwch yn dda. Bydd y maes parcio hwn wedi ei gadw ar gyfer ymwelwyr anabl. Defnyddiwch faes parcio ein swyddfa:
Ni fydd Cyngor Sir Ddinbych yn gyfrifol am unrhyw golled neu ddifrod i gerbydau wedi eu parcio yn y maes parcio hwn. Byddwch yn ofalus wrth ymweld â Chastell Dinbych. Gall henebion fod yn beryglus, a rhaid goruchwylio plant drwy gydol yr amser.
YN OLEin Partneriaid
Mae Mantell yn rhan o’r prosiect Crochanau a Ffwrneisi, sy’n brosiect Legacy Trust UK mewn partneriaeth â CADW, Cyngor Celfyddydau Cymru a Chyngor Sir Ddinbych. Cyfrannwyd cyllid ychwanegol gan Cadwyn Clwyd.
- Power of the Flame
- Denbighshire Council
- Welsh Government
- Lottery Funded
- Arts Council of Wales
- CADW
- Cadwyn Clwyd
- Ruthin Craft Centre
Dyfeiswyd y digwyddiad gan Sean Harris (prif artist), Jim Brook, Ben Davis a Judith Wood, Colin Daimond, Michael Harvey, Christine Mills, pa-Boom (Dave Chadwick), Lisa Spaull a Vagabondi. Rheolwr Prosiect ar ran Cyngor Sir Ddinbych: Sue Phillips. Mewn cydweithrediad â disgyblion ac athrawon o: Ysgol Brynhedydd, Y Rhyl; Ysgol Christchurch, Y Rhyl; Ysgol Esgob Morgan, Llanelwy; Ysgol y Faenol, Bodelwyddan; Ysgol Frongoch, Dinbych; Ysgol Heulfre, Dinbych; Ysgol Melyd, Gallt Melyd; Ysgol Pen Barras, Rhuthun; Ysgol Uwchradd Dinbych; Ysgol Santes Ffraid, Dinbych.
YN OL
